Mae Leanne Wood wedi ei hethol yn arweinydd newydd Plaid Cymru. Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi’r prynhawn yma mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd a bydd Leanne Wood yn olynnu Ieuan ...
Rhai o gefnogwyr Leanne ...
Dafydd Iwan yn cefnogi ymgyrch Leanne Wood
Hwb i Ymgyrch Leanne Wood wrth i Adam Price Ddatgan ei Gefnogaeth
Dau Aelod Cynulliad yn cefnogi ymgyrch Leanne i arwain Plaid Cymru
Latest News
Yr Awdur a’r Darlledwr Mike Parker yn cefnogi Leanne
Wrth gefnogi Leanne, dywedodd Awdur a Darlledwr Mike Parker: “Wedi etholiad mor siomedig i’r Blaid flwyddyn dwetha’, efallai ei bod hi’n ymddangos yn rhyfedd i ddweud fod hwn yn gyfnod cyffrous i’r Blaid. Ond y mae. Mae adolygiad Eurfyl ap Gwilym wedi codi sawl pwynt sy’n ein hannog fel plaid i ystyried ein cyfeiriad gwleidyddol [...]
Grŵp Undebau Llafur yr SNP yn Cefnogi Ymgeisyddiaeth Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi derbyn cefnogaeth adain ddylanwadol ym Mhlaid Genedlaethol yr Alban – Grŵp Undebau Llafur yr SNP – sydd wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi ei chais i fod y ddynes gyntaf i arwain Plaid Cymru. Mae gan y grŵp gannoedd o aelodau sydd yn ymgyrchwyr yn yr undebau llafur ac yn [...]
Neges gan Leanne – Y Daith i Wir Annibyniaeth
Mae Leanne wedi rhyddhau neges ar ffilm i aelodau’r blaid. Yn ei neges, meddai hi: “Dros y blynyddoedd nesaf, mae cyfle ‘da Plaid Cymru i danio dychymyg pobol Cymru a dod â nhw gyda ni ar y daith i wir annibyniaeth. “Nawr yw’r amser i ddweud yn hyderus mai ni yw’r unig blaid gyda uchelgais [...]
Yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis yn datgan ei gefnogaeth i Leanne
Dywedodd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis: “Ffred Ffransis o Lanfihangel ar Arth, ond o’r Rhyl yn wreiddiol wrth gwrs. Dwi’n cefnogi Leanne fel arweinydd Plaid oherwydd y byddai hynny’n cyffroi Cymru. a mae wir angen cyffroi Cymru. Mae’r rhan fwyaf o bobl adeg etholiad maen nhw’n dweud, wel, be’ ydy’r ots pwy ydyn ni’n pleidleisio [...]
Penrhyndeudraeth a Phenarth: Leanne Wood yw’n dewis ni
Mae Leanne Wood wedi denu cefnogaeth i’w hymgyrch dros arweinyddiaeth y Blaid oddi wrth Bwyllgor Cangen Deudraeth yn Nwyfor Meirionydd yn ogystal â Changen Penarth ym Mro Morgannwg. Daw’r gefnogaeth yn sgil cyfarfod diweddar o Bwyllgor Cangen Deudraeth, pan drafodwyd y ras arweinyddol. Cytunwyd “ar sail y wybodaeth a gyhoeddwyd gan y 3 ymgeisydd drwy’r [...]
Leanne yn pryderu am ddyfodol cymunedau Cymraeg ac yn galw am adolygiad brys
Bydd Leanne Wood yn sefydlu adolygiad brys ar sut i amddiffyn cymunedau Cymraeg fel arweinydd Plaid Cymru, yn ôl papur polisi ar yr iaith a ryddhawyd ganddi heddiw (Dydd Iau, Chwefror 23). Os caiff ei hethol yn arweinydd Plaid Cymru, bydd Leanne Wood yn sefydlu grŵp i adrodd yn ôl o fewn 6 mis gyda [...]
Leanne yn ysbrydoli’r beirdd! Dewi Prysor, Mike Jenkins, Catrin Dafydd ac Iwan Rhys yn datgan eu cefnogaeth
Mae ymgyrch Leanne Wood i arwain Plaid Cymru wedi ysbrydoli nifer o feirdd, gyda Dewi Prysor, Mike Jenkins, Catrin Dafydd ac Iwan Rhys yn datgan cefnogaeth iddi. Cyfansoddodd y bardd a’r cyfieithydd Iwan Rhys, sydd yn byw yng Nghaergybi, yr englyn hwn sy’n adlewyrchu ysbryd cadarnhaol ac angerdd ymgyrch Leanne Wood: Leanne, rhaid mynd amdani [...]
Angharad Tomos, Aled G Job a Dafydd Huws yn cefnogi Leanne
Dywedodd yr awdures a’r ymgyrchydd iaith Angharad Tomos: “Dan Leanne Wood … dwi’n credu fod lle i newid deinamig ddigwydd. Wedi 2008, a’r argyfwng ariannol, mae’r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn llwyr. Wedi buddugoliaeth yr SNP yn yr Alban, mae cwestiwn datganoli wedi dod i frig yr agenda. Dyma oedd dau ben pregeth Leanne Wood [...]
Cynghorydd y Blaid dros Lwynhendy, Meilyr Bowen Hughes, yn cefnogi Leanne
Dywedodd Cyng. Meilyr Bowen Hughes, Cyngor Sir Gar: “Fy enw i yw Meilyr Bowen Hughes, dwi’n Gynghorydd Sir dros Lwynhendy, sydd ar gyrion Llanelli. Mae’r bobl dwi’n cynrychioli, yn draddodiadol, pobl plaid lafur ydyn nhw. Fi’n credu taw fi yw’r ymgeisydd cyntaf sydd wedi bod yn llwyddiannus ar ran Plaid Cymru. Rwy’n credu bod e’n [...]
Y delynores Elinor Bennett Wigley yn datgan ei chefnogaeth i Leanne
Mae’r delynores enwog Elinor Bennett Wigley wedi datgan ei chefnogaeth i ymgais Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru. Dywedodd Elinor Bennett Wigley: “Mae’n bleser gennyf ddatgan fy nghefnogaeth i Leanne Wood fel arweinydd nesaf Plaid Cymru. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod person ifanc yn cymryd yr awennau er mwyn sicrhau ymlyniad y to [...]


